"Mae'r ardd yn eich ysbrydoli, nid ydych eisiau cael allan o'r baddon ac mae'r gwely yn hynod braf a moethus"
2 Penrhiw Cottages, Abercych, Sir Benfro SA37 0HB Mae 2 Penrhiw yn fwthyn clyd, llawn cymeriad, wedi ei leoli yn hyfrydwch Cwm Cych, Sir Benfro ar y ffin â siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. Ar ôl sefyll yn wag am ymron i 40 mlynedd cyn ei adfer yn ofalus gan y perchennog presennol Stirling Steward, mae naws yr hen ffordd o fyw i’w brofi yma o hyd ynghyd â digon o foethau cyfoes i wneud eich arhosiad yma’n un pur gyfforddus.
Fe allwch chi noswylio’n gysurus o flaen tân y parlwr, dreulio bore hyfryd o haf ar y teras â’i olygfa o’r cwm neu fwynhau un o nifer o atyniadau lleol.
Darllenwch fwy am hanes y tŷ.
Mae'r bwthyn yn lle delfrydol i awduron, cerddorion, dawnswyr a pherfformwyr sy'n chwilio am noddfa greadigol. I'r rhai sydd ag angen mwy o le i'w gweithgareddau mae neuadd y pentre o fewn dau ddrws i ni. Mae yno ofod mawr llawr pren a chyfleusterau coginio a thoiled modern. Mae o ar gael drwy'r flwyddyn, bron bob dydd yn ystod y dydd ac yn aml gyda'r hwyr hefyd. Mae'r pentref a'r ardal yn llawn ysbrydoliaeth i unrhyw un sydd am dreulio cyfnod ynghanol cwm amaethyddol Cymreig, ei gymdeithas wledig a'i ddiwylliant bywiog ac amrywiol. Mae o'n lle o goedwigoedd, nentydd, afonydd a rhaeadrau, ffermydd llaeth a thyddynod, tir âr a thir mynydd. Mae Stirling a'i gymar Simon Whitehead yn cydweit [...]
Darllenwch fwy am Preswyliadau Artistiaid yn 2 Penrhiw